EGLWYS
DEWI SANT
CAERDYDD
  • Hafan
  • Bywyd yr Eglwys
    • Gwasanaethau >
      • Podliadau Adfent 2021
      • Podlediadau Tymor y Drindod
      • Podlediadau'r Wythnos Fawr a'r Pasg 2021
      • Podlediadau 2021
      • Podlediadau Tachwedd a Rhagfyr
      • Hen Bodlediadau Mis Medi - Hydref
      • Hen Bodlediadau Mis Awst
      • Hen Bodlediadau Mawrth - Gorffennaf
    • Myfyrwyr
    • Gŵyl Flodau
    • Yr Ysgol Sul/Den Dewi
    • Cymdeithas Nos Iau
    • Welsh Learners Coffi a Chlonc 2025
    • Y Bwletin Wythnosol
    • Pererindod 2015
  • Cerddoriaeth
    • Côr yr Eglwys
    • Yr Organ
    • Cyngherddau 2025
  • Hanes
  • Cysylltwch â ni
    • Llogi'r Eglwys/ Hiring the Church >
      • POLISÏAU
      • Polisi Diogelu >
        • Polisi Diogelu Data
  • Cloch Dewi

Crynodeb: Asesiad Risg Tân 2021

Yr Adeilad
  1. Mae’r sustem trydanol yn cael ei archwilio’n flynyddol ac mae’r holl declynnau trydanol yn cael eu profi (PAT) gyda thrydanwyr cymwysedig.
  2. Mae’r nwy a’r sustem gwresogi yn cael ei archwilio yn flynyddol.
  3. Mae’r diffoddwyr tân yn cael eu archwilio a’u profi yn flynyddol.
  4. Mae’r gludwyr mellt yn cael eu archwilio a’u profi yn flynyddol.  Gwnaethpwyd cryn dipyn o waith iddynt 2017 gan Chubb Fire a Security Ltd.
  5. Mae allanfeydd tân yn cael eu cadw’n glir o rhwystrau ac mae’r drysau yn gallu cael eu hagor yn hawdd. 
  6. Does gennym ddim goleuadau argyfwng, ac fe ddylwn ystyried osod tortsh yng nghefn yr eglwys ac yn y neuadd.
  7. Does gennym ni ddim alarwn tân yn yr adeilad.

Y Gegin
  1. Mae’r ffwrn yn drydanol ac mae diffoddwr tân addas yn y gegin.

Y Boeler Gwresogi
  1. Nwy yw’r boeler, ac mae’n cael ei archwilio’n flynyddol gan Geoff Tremlett.

Canhwyllau
  1. Defnyddir canhwyllau ym mhob gwasanaeth.  Defnyddir canwyllbrennau addas a chadarn i ddal y canhwyllau.  Cyfrifoldeb yr un a oleuodd y canhwyllau yw eu diffodd yn syth ar ôl pob gwasanaeth.   

Yn Ymarferol
  1. Mae’n bwysig i groesawyr/wardeniaid fod yn ymwybodol o unrhyw un yn yr adeilad sydd ag unrhyw anhawster symud/ anabledd rhag ofn y bydd angen rhoi cymorth iddo/iddi wrth wacau yr adeilad mewn argyfwng.
  2. Yn ymarferol mewn gwasanaeth ar y Sul, petai argyfwng tân, y Ficer bydd yn cyhoeddi i bawb adael yr adeilad ac ymgynnull wrth y blwch post sydd yn y Cilgant.
  3. Y Ficer, wardeniaid a’r croesawyr fydd yn gyfrifol am wacau yr adeilad mewn argyfwng tân
  4. Arweinwyr yr ysgol Sul fydd yn gyfrifol am dywys y plant o’r Ysgol Sul.
 
 
Pwysig:  Mae’r Crynodeb uchod yn seiliedig ar Our Fire risk assessment a baratowyd gan Ecclesiastical  cwmni yswiriant yr eglwys. 

Proudly powered by Weebly