Yr Adfent a'r Nadolig 2021
Annwyl Gyfeillion,
Mae’n teimlo fel bod yr Adfent wedi cyrraedd yn gynnar eleni gan ei fod yn syrthio ym mis Tachwedd, ond fe wyddom y bydd y Nadolig gyda ni yn y man! Ond pa fath o Nadolig gawn ni eleni tybed? Yn dilyn profiad y llynedd, efallai ein bod yn gobeithio am y gorau tra’n paratoi am y gwaethaf? Y mae nifer o broffwydi och a gwae gyda’u holl sôn am brinder tyrcwn, coed Nadolig, teganau, teclynnau trydanol, addurniadau ac wrth gwrs, prinder sbrowts(!) wedi darogan y byddai’r Nadolig yn cael ei ganslo!
Ai’r pethau hyn sy’n gwneud Nadolig? Wedi’r cyfan, y trimins yw’r rhain ac nid sylwedd yr Ŵyl. Genedigaeth Iesu Grist, mab Duw a mab Mair, sy’n rhoi ystyr i’r Ŵyl a phan ddaliwn ni ein gafael yn y gwirionedd hwn, fe welwn mai eilbeth yw pob un o’r trimins hyn.
Bydd ein harlwy o wasanaethau dros yr Adfent a’r Nadolig eleni eto yn gymysgedd o wasanaethau yn yr eglwys ac yn rhithiol ar ffurf podlediadau. Er gwaethaf yr holl ddarogan am brinder hyn a’r llall y Nadolig hwn, a chrochlefain rhai yn dweud bod y Nadolig wedi’i ganslo, cofiwn y daw Gŵyl y Geni eleni eto, doed a ddelo, oherwydd ganed Iesu, ac ynddo ef, y baban yn gorwedd yn nhlodi gwellt y preseb y cawn ni lawnder bywyd ac y deuwn o hyd i wir lawenydd a thangnefedd yr Ŵyl sanctaidd hon.
Dyfrig - Ficer
GWASANAETHAU
Dydd Sul 28 Tachwedd – Adfent I
10.30am Y Cymun Bendigaid
6.00pm Gwasanaeth o Ddarlleniadau a Cherddoriaeth ar gyfer yr Adfent
Dydd Sul 5 Rhagfyr – Adfent II
8.00am Y Cymun Bendigaid
10.30am Y Cymun Bendigaid
Dydd Sul 12 Rhagfyr – Adfent III
10.30am Y Cymun Bendigaid
6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth
Dydd Sul 19 Rhagfyr – Adfent IV
8.00am Y Cymun Bendigaid
10.30am Gwasanaeth Nadolig Aml-oed
6.00pm Gwasanaeth o Lithoedd a Charolau
A service of Lessons and Carols
Dydd Mercher 22 Rhagfyr
10.30am Y Cymun Bendigaid
1.00pm Carolau’r Cilgant yn yr awyr agored
24 Rhagfyr - Noswyl Nadolig
7.00pm Gwasanaeth Carolau hanner awr dros Zoom
Dewch â gwydraid o sieri a mins pie!
11.00pm Cymun Cyntaf y Nadolig yn yr Eglwys
25 Rhagfyr – Dydd Nadolig/ Christmas Day
9.30am Y Cymun Bendigaid
Dydd Sul 26 Rhagfyr – Nadolig I (Gŵyl St Steffan)
10.30am Y Foreol Weddi a Phregeth
6.00pm Y Cymun Bendigaid
Dydd Sul 2 Ionawr 2022 - Nadolig II
8.00am Y Cymun Bendigaid
10.30am Y Cymun Bendigaid
6.00pm Gwasanaeth Cristingl ar gyfer plant a’u teuluoedd
Os ydych yn bwriadu dod i un neu fwy o’r gwasanaethau dros yr Adfent a’r Nadolig, gofynnir yn garedig i chi anfon e-bost i [email protected]

Wythnos Cymorth Cristnogol ar-lein
2020
Wythnos Cymorth Cristnogol ar lein!
Mewn ychydig wythnosau, mae pandemig y Coronafirws wedi creu newid rhyfeddol yn ein cymdeithas.
Mae’r haint wedi effeithio pob rhan o fywyd. Daeth â dioddefaint ac ansicrwydd i gymaint, yma a thramor, gan wthio’i hun i flaen ein meddwl, ein sgyrsiau a’n gweddïau. Ac rydan ni i gyd yn gorfod addasu o’i oherwydd.
Mae eglwysi Cymru hefyd wedi addasu, wrth iddynt gael eu cau allan o’u hadeiladu. Ond mae nifer wedi ymateb i’r her a bellach ceir gwledd o oedfaon a myfyrdodau ar lein i’n helpu i barhau i addoli.
Yn yr un ffordd, mae Cymorth Cristnogol hefyd yn gorfod addasu. Am y tro cyntaf ers degawdau lawer, ni allwn gynnal Wythnos Cymorth Cristnogol arferol ym mis Mai eleni. Ond tydi hynny ddim yn golygu ein bod am wneud dim.
Bydd cyfle i gynnal y gweithgareddau arferol yn yr hydref, ond mae cyfle i ymuno mewn gweithgareddau ar lein ym mis Mai. Mae Trefn Gwasanaeth, Gweddïau a Nodiadau Pregeth i gyd yn barod ar ein gwefan. Gallwch eu defnyddio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais, neu eu hargraffu ar bapur adref.
I’r eglwysi hynny sy’n paratoi oedfaon ar lein pob Sul i’w haelodau, beth am ddefnyddio’r Trefn Gwasanaeth arbennig sy wedi ei pharatoi ar gyfer Sul 10 Mai? Mae’n troi o amgylch yr arfer pwysig o olchi dwylo.
Yn ychwanegol bydd gennym ddefosiwn dyddiol ar fidio ar ein cyfryngau cymdeithasol a chwis ar Facebook i Gymru gyfan ymuno ynddo! A does dim yn eich atal i greu eich syniadau codi arian ar lein eich hun. Byddem wrth ein bodd cael dathlu’ch syniadau creadigol.
Meddai Cynan Llwyd, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru dros dro, ‘Mae wedi bod yn wych derbyn negeseuon cefnogol gan ein cefnogwyr tuag at ein chwiorydd a’n brodyr dramor, a phobl yn gofyn sut allen nhw barhau i gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol mewn cyfnod mor anodd.
‘Rwy’n gobeithio’n fawr y byddwch yn gallu ymuno yng ngweithgarwch yr Wythnos ar lein ym mis Mai, wrth inni gynnig adnoddau arbennig i’ch helpu i weddïo a chodi arian dros y rhai a effeithir gan dlodi.
‘Nid yw cariad yn darfod byth. Mae’r Coronafirws yn ein heffeithio i gyd. Ond mae cariad yn ein huno i gyd. Gadewch inni i gyd uno dros Wythnos Cymorth Cristnogol a sefyll mewn undod dros y mwyaf bregus yn ein byd.’
Cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf a’r adnoddau ar ein gwefan
- https://www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/coronafirws

Yr Wythnos Fawr a'r Pasg 2020
Annwyl Gyfeillion,
Dyma ni ar drothwy’r Wythnos Fawr a’r Pasg; yr wythnos bwysicaf yn y flwyddyn eglwysig. Fel arfer, gwnawn bob ymdrech i ddod ynghyd fel teulu’r ffydd wrth droed y groes ac o amgylch bwrdd y Cymun i gadw’r ŵyl hon a myrfyfyrio ar fawr weithredoedd Duw a’i gariad tuag atom a welwn ym marwolaeth ac atgyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Ond eleni, ni fydd modd i ni gyd-gyfarfod fel teulu’r eglwys, ac ni fydd modd i ni gwrdd ag aelodau eraill o’n teuluoedd. Mae’n mynd i fod yn Basg gwahanol a rhyfedd iawn i bob un ohonom, a’r unig gysur yw ein bod ni i gyd yn yr un cwch.
Mae si wedi bod ar led yn ddiweddar fod rhai o arweinwyr prif enwadau’r Eglwys wedi bod yn ystyried gohirio’r Pasg tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ar ôl i fywyd ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd a phan fydd hi’n ddiogel i bobl ddod at ei gilydd. Ond does dim wedi dod o’r stori hon, ac efallai nad yw’n beth dymunol i’w wneud chwaith.
Bydd ein heglwysi yn wag ac mor dawel â’r bedd ar Sul y Pasg eleni, heb yr un Haleliwia, heb yr un ffanffer organ, heb yr un anthem fawreddog, OND atgyfododd Crist, atgyfododd yn wir, ac nid oes dim a all newid y ffaith honno. Mae Iesu wedi gorchfygu ac mae’r gad wedi troi. Dyma’r gwirionedd y dylwn ni ganolbwyntio arno y Pasg hwn. Cofiwn, wedi i’r tywyllwch orchuddio haul y dydd, wedi’r groes a’r gladdedigaeth, a chyn iddi wawrio ar fore’r trydydd dydd ffrwydrodd bywyd newydd o anobaith y bedd. Mae’r Pasg yn cyhoeddi’n feiddgar: ar ôl pob croes y daw hyfryd fore wawr a bywyd newydd, oherwydd atgyfododd Crist, atgyfododd yn wir, Haleliwia ac Amen.
Podlediadau ar gyfer yr Wythnos Fawr a’r Pasg
Dydd Llun 6 Ebrill i ddydd Mercher 8 Ebrill –
Llwybr y Groes (podlediad o Orsafoedd y Groes).
9 Ebrill - Nos Iau Cablyd – “O’r Uwch Ystafell i Ardd Gethsemane”
10 Ebrill - Dydd Gwener y Groglith - “Buddugoliaeth y Groes”
12 Ebrill - Sul y Pasg – Gwasanaeth Boreol
Yr Hwyrol Weddi
Bydd y podlediadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar sianel Youtube Eglwys Dewi Sant https://www.youtube.com/channel/UC0WlF7SPz9CtJjPmrMO2TCw a bydd linc yn cael ei anfon i’ch cyfrif e-bost cyn gynted ag y bydd y podlediadau wedi’u cyhoeddi.
Os nad os gennych fynediad i’r we, gaf i eich annog chi i ddilyn y darlleniadau ar gyfer yr Wythnos Fawr sy’n ymddangos yn y Llyfr Gweddi Coch (1984) o Sul y Blodau (tudalen 91) hyd at Sul y Pasg (tudalen 121), ac i neilltuo cyfnod bob dydd yn ystod yr wythnos hon i weddi a myfyrdod ar air Duw.
Gan eich sicrhau fy mod yn eich cadw chi oll yn fy ngweddïau,
Pob bendith ar gyfer y Pasg, yn y gobaith y cawn gwrdd fel teulu’r eglwys
o amgylch bwrdd yr Arglwydd yn fuan.
Dyfrig (Ficer)

Llythyr Bugeiliol: 21 Mawrth 2020
(See below for English)
21 Mawrth 2020
Llythyr Bugeiliol – Yr Eglwys a Covid 19
Annwyl Blwyfolion,
Yr ydym yn byw mewn cyfnod na fu ei debyg erioed, cyfnod sy’n gofyn i ni fyw mewn ffordd wahanol iawn – lle mae’r arferol, am y tro, wedi troi’n anarferol. Mae ein ffordd o fyw wedi newid, ac wrth reswm mae hyn yn gallu peri i ni deimlo’n ansicr a phryderus. Mae’r holl newidiadau, y gwaharddiadau a’r gofyn i ni ymbellhau’n gymdeithasol a hunan-ynysu, yn gamau priodol a doeth sydd angen i ni eu cymryd er mwyn gofalu amdanom ein hunain a thrwy hynny, ofalu am eraill, yn enwedig y rhai mwyaf bregus o fewn ein cymunedau.
Wrth reswm, mae hyn yn ei dro, yn cael effaith enfawr ar ein bywyd ni fel eglwys, yn enwedig gan nad ydym bellach yn gallu cwrdd yn ein gwasanaethau ar y Sul ac yng nghanol yr wythnos. Mae hyn yn mynd i fod yn brofiad chwithig i ni oll, ac yr wyf yn awyddus iawn ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw mewn cysylltiad â’n gilydd, a pharhau i addoli ond mewn dull gwahanol iawn i’r arfer. Cofiwn fod yr eglwys yn fwy na’i gwasanaethau ar y Sul ac nad ydym yn llai o gymuned eglwysig os na allwn gwrdd yn ein ffordd arferol.
Bwriad y llythyr hwn yw gosod allan y camau yr ydym fel eglwys yn eu cymryd i wneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd a hefyd i’ch sicrhau chi fy mod i, fel eich ficer, yma ar eich cyfer, i’ch cadw chi oll yn fy ngweddïau, i fod yn help ymarferol yn ôl y galw, yn glust i wrando, a hefyd i sicrhau bod bywyd o addoliad yr eglwys yn parhau trwy’r cyfnod hwn.
1. Gwasanaethau ar y Sul.
Nid oes modd i ni gwrdd fel eglwys i addoli ar y Sul bellach. Byddaf yn mynd i’r eglwys ar y Sul, yn ôl fy arfer, yn offrymu moliant yr eglwys ac yn gweddïo drosoch chi oll wrth yr allor mewn eglwys gloëdig ar yr amserau priodol; dyma fy nyletswydd a’m braint. Bydd y daflen wythnosol yn cael ei hanfon atoch fel arfer, ond bydd yn ddefosiynol ei naws ac yn cynnwys y darlleniadau ar gyfer y Sul a threfn syml o wasanaeth a myfyrdod i chi eu defnyddio yn eich cartrefi. Ynghyd â hyn, yr ydym yn bwriadu creu podlediadau o wasanaethau i’w hanfon allan gyda’r daflen wythnosol. Y bwriad yw anfon yr un cyntaf fore Sul 22 Mawrth fel arbrawf. Os bydd yn gweithio, byddwn yn creu un ar gyfer y gwasanaeth boreol (10.30am) ac efallai hefyd, un ar gyfer y gwasanaeth hwyrol (6.00pm) nes cawn ni gwrdd gyda’n gilydd eto ar y Sul.
Hefyd, os oes gennych gopïau o lyfrau gweddi yr Eglwys yng Nghymru (y llyfr coch a’r llyfr glas tywyll 1984) - nawr yw’r amser i chi chwythu’r dwst o’u cloriau! Mae modd i bawb ddefnyddio trefn y Foreol a’r Hwyrol Weddi ar gyfer defosiwn personol. Hefyd, mae modd dilyn darlleniadau’r Sul yn y llyfr coch, Trefn Gwasanaeth Y Cymun Bendigaid (1984). Mae’r llyfrau hyn yn drysorfa o gynhaliaeth a maeth ysbrydol sydd wedi bod yn gefn i eglwyswyr am dros 400 cant o flynyddoedd. Yn yr un modd, os oes gennych lyfr/au emynau yn y tŷ, defnyddiwch nhw. Mae darllen emynau yn gallu bod yr un mor fuddiol â’u canu.
Neilltuwch amser ar y Sul i weddïo gan gofio am eich cyd-blwyfolion.
2. Yr Eglwys
Mae’r Esgob wedi gofyn i eglwysi fod yn agored mor aml â phosib er mwyn rhoi cyfle i bobl ddod i offrymu gweddi bersonol –goleuo cannwyll efallai, neu eistedd yn dawel a myfyrio. Byddaf yn agor yr eglwys, ac fe fyddaf yno ar ddyddiau Mercher rhwng 11.00am ac 1.00pm a dyddiau Sul rhwng 11.00am ac 1.00pm. (Os oes rhai ohonoch ddim yn hunan-ynysu ac felly ar gael i helpu i warchod yr eglwys, anfonwch neges ataf.)
3. Gofal Bugeiliol
O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, nid wyf bellach yn gallu ymweld â chi. Mae hyn yn cynnwys ysbytai (mae ganddyn nhw eu caplaniaid) a chartrefi preswyl/nyrsio – oni bai bod argyfwng neu ei bod yn fater o frys. Ni fydd modd imi gynnig Cymun Cartref chwaith oni bai ei bod yn fater o frys). Cofiwch fy mod ar ddiwedd y ffôn – felly os oes angen unrhyw beth – ffoniwch fi – ac wrth reswm, o dan yr amgylchiadau priodol, byddaf yn hapus i alw yn y tŷ, ysbyty ayyb. Mae hyn oll yn chwithig iawn i mi, ond mae cyfarwyddiadau’r Esgob yn glir, a hynny er mwyn sicrhau iechyd y claf, nid i osod unrhyw un sy’n hunan-ynysu mewn sefyllfa lletchwith os yw’r ficer yn troi lan ac yn mynnu paned o de!
Byddaf yn fy nhro yn rhoi caniad ffôn i chi. Yr wyf yn ddigon hapus hefyd i ‘mofyn negeseuon i chi o’r siop, fferyllfa neu rywle arall. Peidiwch â bod ofn gofyn. Os gallaf ei wneud, fe’i gwnaf. Mae nifer o bobl yn EDS eisoes wedi cynnig helpu gyda’r gwaith o siopa a ‘mofyn negeseuon yn ôl yr angen a threfnu i’w gadael ar stepen y drws.
Yr wyf yn awyddus iawn i sicrhau nad ydych yn teimlo’n unig, yn enwedig y rhai ohonoch sy’n hunan-ynysu. Felly, cofiwch fod croeso i chi ffonio neu anfon e-bost ataf. Hefyd, mae nifer yn EDS yn barod iawn i dderbyn galwadau, ffonio a chael sgwrs. Peidiwch ag anghofio y pwysigrwydd o siarad a chadw mewn cysylltiad â’ch gilydd.
4. Cadw mewn Cysylltiad.
Os ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol cofiwch fod gan yr eglwys dudalen Facebook, Twitter, ac erbyn hyn grŵp Whatsapp “Eglwys Dewi Sant”.
Mae’n bwysig i ni hefyd gofio cadw mewn cysylltiad â’r rhai nad oes ganddynt gyfrifiadur na ffôn symudol clyfar trwy roi caniad ffôn iddyn nhw.
Bydd rhifyn nesaf Cloch Dewi yn ymddangos ddechrau mis Ebrill – os na allwn argraffu copïau caled byddwn yn ei anfon allan yn ddigidol ac yn printio nifer o gopïau caled i’r rhai nad oes ganddynt gyfrifiadur.
Fel y gwelwch, mae’r sefyllfa gyda’r coronafirws yn ein gorfodi ni i fod yn eglwys wahanol iawn i’r arfer – ond yr ydym yn parhau i fod yn eglwys gyda’n gilydd gan wynebu’r dyfodol yn llawn hyder a ffydd. Boed i ni fod yn gefn ac yn gymorth i’n gilydd gyda Duw yn nerth ac yn gymorth i ni.
Yng ngeiriau emyn Herber Evans, sydd wedi bod yn gefn mawr i mi mewn cyfnodau dyrys ac anodd:

Tywys di fi i’r dyfodol,
Er na welaf i ond cam;
Cariad Duw fydd eto’n arwain –
Cariad mwy na chariad mam;
Mae Calfaria’n profi digon,
Saint ac Engyl byth a’i gŵyr;
Er i’r groes fod yn y llwybyr,
Bydd goleuni yn yr hwyr.
(Emynau Eglwys 372)
Er na welaf i ond cam;
Cariad Duw fydd eto’n arwain –
Cariad mwy na chariad mam;
Mae Calfaria’n profi digon,
Saint ac Engyl byth a’i gŵyr;
Er i’r groes fod yn y llwybyr,
Bydd goleuni yn yr hwyr.
(Emynau Eglwys 372)
Gyda phob bendith a’n holl weddïau.
Dyfrig Lloyd - Ficer
Wyn Mears – Warden y Ficer
Gwynn Matthews – Warden y Bobl
Dyfrig Lloyd - Ficer
Wyn Mears – Warden y Ficer
Gwynn Matthews – Warden y Bobl
(Gweler uchod am y Gymraeg)
21 March 2020
Pastoral Letter – The Church and Covid 19
Dear Parishioners,
During these unprecedented times we are being asked to live in a very different way: our normal way of life has been put on hold for a time. By now, our daily routines are very different, and this can cause an increase in feelings of uncertainly and worry. All these changes: the number of restrictions, social distancing and self-isolation are all appropriate and wise steps to ensure that we take care of ourselves and, by doing so care for others, especially those most vulnerable within our communities.
These changes have a huge impact for our life as a church, especially as we can longer meet for worship on Sundays and in the middle of the week. This is going to be a very strange experience for us, and I am very keen to ensure that we do everything that is possible to keep in touch with one another, and ensure we worship together but in a very different way. It is good to remember that the church is more than its Sunday services. We are no less a church now, in spite of our inability to meet in the normal way.
The purpose of this letter is to set out the number of steps we are taking as a church to ensure that we keep in touch with one another, and also to ensure you, that I, as your vicar, am here for you: to keep you in my prayers, to offer any practical help that I can, to be a listening ear, and to ensure you that the worshipping life of the church continues unabated during this period.
1. Church Services
We can no longer meet together for public worship on Sundays. I will go to church on Sundays, and continue to offer the praise of the church, and to pray for you all at the altar as I do every Sunday, but with the church doors locked: this is my duty and privilege. The weekly newsletter will be sent out as usual and will include devotional content including the readings for Sunday, a simple order of service and a short reflection for you to use at home. Also, we are exploring the possibility of creating podcasts of services to be sent out with the weekly newsletter. As an experiment the first podcast will be sent out this coming Sunday. If it works, we hope to create one for the morning service (10.30am) and possibly for the evening service (6.00pm) until such time as we can meet together again on Sundays.
If you have copies of the Church in Wales Prayer Book (the red and dark blue - 1984), now would be a good time to take them down from the bookcase! It is possible to use the order of Morning and Evening Prayer for personal devotion at home. Also you can follow the Sunday readings in the red Communion Prayer Book (1984). These books are a rich repository of spiritual nourishment and sustenance that has been a great comfort and strength to Anglicans for over 400 years. In the same way, if you have any hymn books, please use them. Reading hymns is just as beneficial as singing them.
Make time on Sundays to worship and pray, and to remember in your prayers your fellow parishioners.
2. The Church
The bishop has asked that as many churches as possible open their doors to allow people the opportunity to come in and offer their personal prayers – light a candle, or sit quietly and think. I will be opening the church, and I’ll be in church on Wednesdays between 11.00am – 1.00pm and on Sundays between 11.00am – 1.00pm. (If anyone who is not self-isolating is able to help, please contact me. For safety reasons it is better to have two people on duty when the church is open).
3. Pastoral Care
Due to the exceptional circumstances, I am no longer able to visit as I would normally do. This also includes general hospital visits (they have their chaplains), and residential and nursing homes – unless it is a matter of urgency. Also, during this period I am unable to offer home Communions (unless it is a matter of urgency). Remember, I am on the other end of the phone – so that if you need anything – phone me – and under certain circumstances, I will be able to make a home or hospital visit. This goes against all my natural instincts as a pastor and priest, however the bishop’s instructions are clear and wise to ensure that hospital patients are not put at risk, and to ensure that those who are self-isolating are not placed in an awkward position with the Vicar turning up on the doorstep demanding a cup of tea!
I will be phoning you all in turn. Also I am more than happy to go and do some shopping for those who need it. Please do not hesitate to contact me if you need anything. If I can do it, I will. Also there are a number from EDS who have offered their services to help with shopping and to deliver them to your doorstep.
Also, I am very keen to ensure that all who are self-isolating, while isolated are not feeling lonely. So remember, you are welcome to phone me or email me. There are a number from EDS who are ready to receive telephone calls and have a chat about nothing and everything. Never forget the benefit of just talking and keeping in contact with one another.
(If you would like to join one of these groups, please let me know, and with your permission I can add your name and telephone number to one or both of these lists).
4. Keeping in Contact
If you use social media, remember we have a Facebook page and Twitter account @eglwysdewisant and, from today, a Whatsapp group “Eglwys Dewi Sant”.
It is also important to keep in contact with those who do not have access to a computer or smart phone by giving them a telephone call.
The next issue of Cloch Dewi will appear in April – and if we cannot print hard copies, we will be sending it out digitally and print a small number of hard copies for those without a computer.
As you can see, the present situation with the Coronavirus is asking us to be church in a very different way – but we remain a church community and together we look to the future in faith with confident hope. Let us help and support one another with God’s strength and guidance.
In the words of a well-known hymn:

Lord of all hopefulness, Lord of all joy,
Whose trust, ever child-like, no cares could destroy,
Be there at our waking, and give us, we pray,
Your bliss in our hearts, Lord, at the break of the day.
Lord of all gentleness, Lord of all calm,
Whose voice is contentment, whose presence is balm,
Be there at our sleeping, and give us, we pray,
Your peace in our hearts, Lord, at the end of the day.
Jan Struther

With all our prayers and every blessing,
Dyfrig Lloyd – Vicar
Wyn Mears – Vicar’s Warden
Gwynn Matthews – People’s Warden
Dyfrig Lloyd – Vicar
Wyn Mears – Vicar’s Warden
Gwynn Matthews – People’s Warden
Yr Adfent a'r Nadolig 2019
Annwyl Gyfeillion,
Mae’r flwyddyn Eglwysig yn dechrau gyda’r Adfent, sef y pedwar Sul sy’n arwain at y Nadolig. Wrth i’r gaeaf gydio ac i oriau golau dydd leihau prif thema’r Adfent yw goleuni: y goleuni sy’n llewyrchu yn y tywyllwch ac ni all yr un tywyllwch byth mo’i drechu (Ioan 15). Felly ar bob un o Suliau’r Adfent, yr ydym yn goleuo un gannwyll newydd ar dorch yr Adfent i herio’r tywyllwch, nes i ni, ar ddydd Nadolig, oleuo’r gannwyll olaf, sef y gannwyll sy’n cyhoeddi fod Iesu Grist, gwir Oleuni’r byd wedi dod i’n plith.
Ar adegau, wrth edrych ar yr heriau sy’n wynebu’r ddynoliaeth mae’n hawdd credu bod y tywyllwch yn drech na’r goleuni. Ond mae’r Nadolig yn ein hatgoffa yn flynyddol bod y goleuni tragwyddol i’w ddarganfod yn y man mwyaf annisgwyl; yn rhyfeddod gwyrth y geni, ac yn niniweidrwydd ac amddifadedd y baban yn y preseb. Dyma’r goleuni sydd â’r gallu i wasgaru’r tywyllwch yng nghalon y ddynoliaeth ym mhob oes, wrth i ni fel Mair a Joseff, y bugeiliaid a’r doethion blygu’n wylaidd i syllu ar y Gair bywiol yn gwisgo cadachau ac yn gorwedd yn y preseb.
Ymunwch â ni yn ein gwasanaethau dros gyfnod yr Adfent a’r Nadolig eleni er mwyn i ni ddarganfod o’r newydd y goleuni tragwyddol sy’n dwyn gobaith a llawenydd i’r byd.
Gwasanaethau'r Adfent a'r Nadolig

Yr Wythnos Fawr a'r Pasg 2019
“O’r Grog waedlyd y daeth gwaredigaeth i’r byd.
Bugail Cadarn yw Crist, ei anrhydedd ni dderfydd”.
Daw’r geiriau hyn o hen gerdd Gymraeg sy’n mynd yn ôl ymhellach na’r Drydedd Ganrif ar Ddeg. (Llyfr Du Caerfyrddin). Mae’n gerdd a ysgrifennwyd i foli Duw’r Gwaredwr, ac yn ganolog i’r gerdd mae gwaith achubol Iesu Grist ar y groes. Er holl erchyllterau’r ‘grog waedlyd’ a ddioddefodd Iesu, mae’r awdur yn cyflwyno inni ddarlun o Iesu Grist fel yr arwr gorchfygol. Yr arwr a aeth i’r groes i frwydro’n wrol dros y ddynoliaeth yn erbyn galluoedd pechod a drygioni, a chyfodi o’r bedd yn fuddugoliaethus, wedi’u trechu hwy oll. Nid drygioni’r ddynoliaeth sy’n cael y gair olaf ar y groes ond cariad Duw yng Nghrist Iesu.
Buddugoliaeth yw gwir thema y gerdd hon. Buddugoliaeth Iesu sy’n dwyn gwaredigaeth i’r ddynolryw a’r greadigaeth o afael yr hyn sy’n eu difwyno, eu dibrisio ac yn dirmygu delw’r Duw byw ynom ni ac ôl ei law yn ei gread. Trwy ein ffydd ym muddugoliaeth Iesu, adferir delw Duw ynom a chawn ein croesawu a chydrannu yn ei wledd dragwyddol.
Mae’r Pasg, yn flynyddol, yn ein galw ni i ganolbwyntio ar y groes a’r bedd gwag ac ar Iesu y bugail cadarn. Y bugail sydd â’i ofal yn fawr drosom, ei ffordd yw cyfiawnder a gwirionedd ac wrth ei ganlyn fe gawn ein tywys ar hyd ffordd tangnefedd.
Ymunwch â ni dros yr Wythnos Fawr a’r Pasg i dreiddio i ddirgelwch marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, ein Bugail cadarn, “ei anrhydedd ni dderfydd”.
Pob Bendith y Pasg,
Y Parchedig Dyfrig Lloyd (Ficer)
GWASANAETHAU'R WYTHNOS FAWR A'R PASG

Rhagor o Eira - Gwyn fy myd!!
Dydd Sul 18 Mawrth 2018
Golygfa o brif borth yr Eglwys
Gŵyl Ddewi 2018: Gwyn-fydedig!
Eleni, ar Ŵyl Ddewi, fe orchuddiwyd y ddinas â thrwch o eira purwyn.
Cynhaliwyd ein gwasanaethau i ddathlu Gŵyl ein Nawddsant er gwaethaf yr eira!

EDS: Eglwys Ddiogel
Yng nghyfarfod o’r Cyngor Plwyfol Eglwysig ym mis Chwefror 2018, fe wnaeth y cyngor ail-ymrwymo yr eglwys i bolisi Diogelu yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r polisi hwn yn sicrhau ein bod ni fel eglwys yn darparu “amgylchedd cenhadu a gweinidogaethu diogel, hapus a chefnogol” i bawb sy’n dod trwy ddrws yr eglwys, ond yn enwedig i blant, pobl ifanc ac oedolion bregus. Cofiwn geiriau’r Iesu, “Gadewch i’r plant ddod ataf fi a pheidiwch â’u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn”. Mathew 19:14
|
Er mwyn bod yn Eglwys Ddiogelu, y mae EDS yn ymrwymo i’r canlynol:
Mae’r polisi llawn i’w weld ar yr hysbysfwrdd yn neuadd yr eglwys.
- sicrhau bod holl weithwyr yr eglwys, boed yn ordeiniedig neu’n lleyg, p’un ai ydynt yn gyflogedig neu’n wirfoddolwyr, yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn deg wrth drin plant, pobl ifanc ac oedolion bregus; sicrhau bod eu swyddi o ymddiriedaeth yn cael eu diogelu ac nad ydynt yn manteisio ar y rhai o dan eu gofal.
- sicrhau bod holl weithwyr yr eglwys yn addas i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus.
- sicrhau bod addoliad cyhoeddus, digwyddiadau a gweithgareddau o bob math yn cael eu trefnu a’u darparu i safon uchel, gan roi ystyriaeth i anghenion penodol plant, pobl ifanc ac oedolion bregus.
- sicrhau bod gofal bugeiliol o bob math yn cael ei ddarparu mewn ffordd ddiogel.
- sicrhau bod pryderon, cwynion neu gyhuddiadau o bob math yn cael eu trin yn unol â’r gyfraith ac arferion gorau.
- sicrhau bod pobl sydd wedi cael eu cam-drin yn cael eu cefnogi’n ddiogel gan gymuned yr eglwys.
- sicrhau bod troseddwyr yn cael eu trin yn deg.
- parhau i adolygu ein polisi a’n gweithdrefnau.
Mae’r polisi llawn i’w weld ar yr hysbysfwrdd yn neuadd yr eglwys.
Cyflwyno Elw'r Ŵyl Flodau i gynrychiolydd o Marie Curie
Nos Fercher 30 Awst 2017
Edrych yn ôl dros 60mlynedd!
Gŵyl Cyflwyniad Eglwys Dewi Sant
Dathlu 60mlwyddiant yn y Cilgant
Dydd Sul 6 Tachwedd 2016
Dathlu 60mlwyddiant yn y Cilgant
Dydd Sul 6 Tachwedd 2016
Gorymdaith y Côr o amgylch y Cilgant
gyda’r Parchedig Ganon Rosser yn arwain.
Gwasanaeth Ailgysegru Eglwys Dewi Sant
Gŵyl yr Holl Saint 1956.

At aelodau Eglwys Dewi Sant
Adeg Dathliadau 2016.
Diolch i chi am gadw drws yr eglwys ar agor dros y trigain mlynedd hyn:
ar agor i bererinion y brifddinas i ddrachtio’n
ddwfn o ffynnon y dŵr bywiol;
ar agor i’r ffyddloniaid ac i’r mynychwyr llai
cyson i gael cwrdd â’i gilydd ac â Duw;
ar agor i bechaduriaid glywed gair o ollyngdod i’w
hailgyfeirio ar hyd ffordd arall;
ar agor i’r teulu bach sy’n ymaelodi yng nghorff
Crist trwy’r bedydd;
ar agor i gymunwyr gael rhagflas o’r wledd nefol;
ar agor i barau llawn cyffro ofyn am fendith ar eu huniad;
ar agor i deuluoedd yn eu galar sy’n dyheu am air
o gysur i ddeffro egin gobaith yn y galon;
ar agor i Gymry Gymraeg y ddinas a’r dalaith yn
ogystal â’r di-Gymraeg o bedwar ban byd;
ar agor i gyfarchiad y Gair a wnaethpwyd yn
gnawd i’n galluogi i fyw’r Newyddion Da yn y byd.
Parhewch i gadw’r drws ar agor a chadw’r
ffynnon rhag y baw.
+ Saunders Davies - (cyn Ficer EDS ac Esgob Bangor)

Llun ar ôl y gwasanaeth dathlu
Cyn aelodau Côr yr Eglwys
Gwibdaith EDS i Eglwys y Carcharorion yn Henllan
18 Awst 2016
Cafwyd gwibdaith hyfryd iawn pan aeth llond bws ohonom i ymweld ag Eglwys y Carcharorion yn Henllan. Profiad trawiadol oedd cerdded i mewn i hen gwt o adeilad di-nod o’r tu allan a chamu i mewn i eglwys Babyddol wedi’i haddurno’n hynod o hardd â murluniau a chelfyddwaith cain a grëwyd gan y carcharorion Eidalaidd. Cawsom hanes y gwersyll a’r carcharorion gan y perchennog, Jim Thompson a John Meirion Jones. Fe lwyddodd y ddau i ddod â hanes y lle yn fyw i ni. Ar ôl gwasanaeth byr yn yr eglwys, aethom am ginio Eidalaidd blasus iawn yn La Calabria. Diolch yn fawr i Gwenda Williams a Brynmor Jones am drefnu ac arwain y wibdaith. Cafwyd diwrnod hamddenol a hwyliog dros ben ac edrychwn ymlaen at yr un nesaf. Y Ficer.
Cawsom ni groeso cynnes i hen wersyll y Carcharorion yn Henllan gan John Meirion Jones
Y Fynedfa ddi-nod i'r trysor anghredadwy
Mr Jim Thompson a Mr John Meirion Jones yn rhoi inni'r hanes am yr eglwys hynod hon
Pererinion EDS ar bererindod yr Esgobaeth i Walsingham
Gorffennaf 2016
Gorffennaf 2016
Y pererinion gyda'r Parchedig Rhun ap Robert, curad Llanafan.
Rhian yn Gweinyddu'r Cymun Bendigaid am y tro cyntaf
yn Eglwys St Ioan Fedyddiwr
ar Ŵyl St Thomas 2016
Tafwyl 2016
Am y tro cyntaf mae gan Gyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd pabell yn Tafwyl.
Gweinyddiad Cyntaf y Parchedig Rhian Linecar o'r Cymun Bendigaid
26 Mehefin
Mae gennym ni Offeiriad newydd yn ein plith
Gwasanaeth Ordinasiwn y Parchedig Rhian Linecar
Dydd Sadwrn 25 Mehefin 2016
Eglwys Gadeiriol Llandaf
Llongyfarchiadau i'r Parchedig Rhian Linecar ar ei hordinasiwn heddiw. Yn y llun: Y Parchedig Dyfrig Lloyd, y Parchedig Rhian Linecar a'r Parchedig Ganon Sarah Rowland Jones. Mae Rhian yn gurad ar y cyd yn Eglwys Dewi Sant ac Eglwys St Ioan Fedyddiwr canol y ddinas.
Cyngerdd 60Mlwyddiant EDS
yng nghwmni
"Ffrindiau"
Hyfrydwch o’r mwyaf oedd cael croesawu parti canu “Ffrindiau”, o gyffiniau Tregaron i arwain ein cyngerdd dathlu. Cafwyd noson o adloniant Cymraeg a Chymreig, gyda chanu gwefreiddiol a llefaru gafaelgar.
Diolch o ganol i’r Ffrindiau am gynnal cyngerdd a noson gofiadwy. Nos Sadwrn 18 Mehefin.

Y Parti "Ffrindiau"
Bronwen Morgan yn llefaru
Deuawd
Noson o ddiddanwch pur a digonedd o chwerthin
Unawd Cyril Evans
Diolch i Irfon Bennett am y lluniau
Gwasanaeth Ailgysegru Eglwys Dewi Sant
Dathlu 60Mlwyddiant yr Eglwys yn yr Adeilad presennol
Gŵyl Ddewi 2016

Tyrd, O Arglwydd, i mewn i’r Tŷ hwn, a sefydla yng nghalonnau dy ffyddlon bobl breswylfa dragwyddol i ti dy hun, fel y bo i’r Eglwys hon a adeiladwyd ac a adferwyd i’th ogoniant ar gyfer Cymry’r Brifddinas, i addoli Duw yn yr iaith Gymraeg, ac i goffáu dy was Dewi, gael ei gogoneddu a’i hadnewyddu hefyd gan dy bresenoldeb parhaus, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Tangnefedd fyddo i’r Tŷ hwn oddi wrth Dduw ein Tad nefol.
Tangnefedd fyddo i’r Tŷ hwn oddi wrth ei Fab ef, yr hwn yw ein tangnefedd.
Tangnefedd fyddo i’r Tŷ hwn oddi wrth yr Ysbryd Glân y Diddanydd.
O Geidwad bendigedig, yr hwn yn nyddiau dy weinidogaeth ddaearol, a anrhydeddaist gysegr-wyliau dy genedl â’th rasol bresenoldeb; bydd yn bresennol gyda ninnau heddiw; a chan mai sancteiddrwydd a weddai i’th Dŷ, sancteiddia ni, fel y byddom yn demlau byw, sanctaidd a chymeradwy gennyt ti; ac felly preswylia yn ein calonnau trwy ffydd, a meddianna ein heneidiau gan dy ras, fel y gallwn ymroi bob amser yn ddefosiynol i’th wasanaeth ymhob gweithred dda; yr hwn gyda’r Tad, a’r Ysbryd Glân, wyt yn byw yn oes oesoedd. Amen.

Detholiad o bregeth yr Archesgob
Y diwrnod o’r blaen, ysgrifennodd diwinydd Catholig enwog fod pobl yn newynu am ddau beth – bara a throsgynoldeb. Mae ar bawb ohonom angen cynhaliaeth i’r corff, ond mae arnom hefyd hiraeth am rywbeth y tu hwnt i ni ein hunain – ac er nad ydym efallai yn sylweddoli hynny, hiraeth am Dduw yw hwnnw, oherwydd yr ydym wedi ein llunio ar ei ddelw.
Fe fynegodd Awstin Sant y peth yn gynnil iawn: “Y mae ein calonnau’n ddiorffwys nes gorffwys yn Nuw”. Ac fe’i crynhowyd yn rhagorol mewn dwy frawddeg yng Ngweddi’r Arglwydd: “Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd” (dyna’r trosgynoldeb) a “Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol” (dyna’r bara). Dywedir mai ychydig a fwytâi Dewi Sant – dim byd on bara a llysiau.
Fe wyddom i gyd na fedr neb fyw heb fwyd. Ond nid pawb sy’n sylweddoli na fedr neb fyw’n iawn heb berthynas â Duw ychwaith, ac mae’r adeilad hwn, fel pob eglwys arall, yn ein hatgoffa o’r gwirionedd hwnnw.
Mae’n ein hatgoffa bod yna Dduw yr ydym yn credu ynddo a bod ffurfio perthynas ag ef yn hanfodol os ydym am fyw bywyd yn ei gyflawnder. Mae hefyd yn atgoffa’r gymuned gyfan bod gwerthoedd yr Efengyl yn hollbwysig mewn byd sydd mor aml yn eu hanwybyddu. Mae’n symbol o’r ffydd Gristnogol ac o bopeth y mae Cristnogion yn ei gredu. A dyfynnu Llyfr Genesis, “ Nid yw'n ddim amgen na thŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd".
Ysgrifennodd Jeremy Paxman, cyn-gyflwynydd Newsnight, bod: “eglwysi fel atalnodau ar y tirwedd, oherwydd mae adeiladau crefyddol y wlad nid yn unig yn dangos inni ymhle yr ydym yn ddaearyddol, maen nhw hefyd yn dangos o ba le y daethom. Yn aml iawn, nhw yw’r unig le yn y gymuned sydd â chysylltiad gweladwy â’r gorffennol. Maen nhw’n ein cysylltu ni â’n hanes.” Ac fe fyddwn i am ychwanegu eu bod nhw hefyd yn ein cysylltu â chred yn y Duw a’n creodd ni ac sy’n ein caru.
Mae eglwys yn adeilad symbolaidd, ac mae symbolau’n bwysig am eu bod yn cyfleu’r hyn yr ydym yn ein gredu. Gall pawb a ddaw i’r lle hwn weld mai lle i addoli ydyw, bod yma gymuned o Gristnogion sy’n credu bod gan yr Efengyl rywbeth i’w gynnig iddynt, ac i’w gynnig i’r byd.
Ond peidiwch ag anghofio mai chi, bobl Dduw, yw symbolau byw – sacramentau byw – gwirionedd yr Efengyl. All yr adeilad hwn ynddo’i hun ddim argyhoeddi pobl o fodolaeth Duw, a bod tosturi, cariad, llawenydd, tangnefedd a gras wrth galon bod yn ddisgybl i Iesu. Dim ond chi, y meini bywiol, yr offeiriadaeth frenhinol, chwedl Epistol Pedr, a all wneud hynny. Modd i gyrraedd diben yw’r adeilad, cymorth inni fyw’r Efengyl, nid diben ynddo’i hun. Mae Cristnogion weithiau’n anghofio hynny. Mae pen-blwydd cysegu’r eglwys nid yn unig yn gyfle inni ddiolch i Dduw am y gorffennol; mae hefyd yn gymorth inni ein cysegru’n hunain o’r newydd i’r Duw yr adeiladwyd yr eglwys er gogoniant iddo.
Mae pob Cristion, fel y dywed Paul, yn “llythyr Crist ... , llythyr ... wedi ei ysgrifennu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw, nid ar lechau cerrig, ond ar lechau'r galon ddynol”. Rydych chi a minnau’n llysgenhadon dros Grist. All yr Efengyl ddim cael ei lledaenu heb i ni ddangos olion a gwerthoedd Iesu yn ein bywydau.
Pan fydd pobl yn edrych arnom, a ydyn nhw’n gweld yr Efengyl ar waith yn ein calonnau a’n bywydau? A gofyn y cwestiwn yn fwy amrwd, a ydym ni’n hysbysebion da i Iesu Grist? Wneith yr adeilad mo hynny trosom, ond y mae i fod i’n helpu yn y gwaith. Weithiau, wrth gwrs, gall adeiladau fod yn fwy o rwystr nag o help, am eu bod yn ddibenion ynddynt eu hunain yn lle bod yn foddion i gyrraedd diben. A dwyn cywilydd ar yr Efengyl yw hynny.
Felly, y cwestiwn i’w ofyn heddiw yw’r cwestiwn sylfaenol am ystyr bod yn ddisgybl. Beth yw hanfod bod yn Gristion? Sut y mae dilyn Iesu? Yn gryno ac yn syml, fe ddywedwn i fod Cristnogion dros Dduw fel y datguddiwyd ef yn Iesu Grist, a thros eraill, gan ddilyn esiampl Iesu Grist.........
Os ydym ni am fod yn ddilynwyr i Iesu, rhaid inni fod dros eraill, fel yr oedd ef. Yr ydym yma i wasanaethu’r gymuned – nid fel yr hoffem ni iddi fod ond fel y mae, yn ei holl amherffeithrwydd briwedig. Yr ydym yma nid er ein mwyn ein hunain, yn rhyw glwb bach cartrefol, ond i fod yn asiant Teyrnas Dduw. Fe all eich bod yn meddwl bod hynny’n dasg rhy anodd inni. Yn ei bregeth olaf, ychydig cyn ei farw, fe ddywedodd Dewi Sant hyn: “Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.”
Fe fyddwn yn meddwl yn aml mai dim ond y pethau mawr sy’n cyfrif a bod y rheini y tu hwnt i’n cyrraedd. Dywedodd Thomas Carlyle:
“Rhaid i’r sawl sydd am wneud daioni wneud hynny mewn ffyrdd bach, penodol.”
Ac mae nofel George Eliot, Middlemarch, yn gorffen â’r geiriau hyn am yr arwres, Dorothea:
“Pobl gyffredin, gyda’u geiriau a’u gweithredoedd beunyddiol, sy’n paratoi bywyd sawl Dorothea. Bu effaith ei bodolaeth hi ar y bobl y cyfarfu â hwy yn bellgyrhaeddol ac anfesuradwy ac mae’r byd yn dibynnu i raddau helaeth ar bethau bychain.”
Mae pethau bychain yn bwysig. Sawl gwaith y clywsoch chi bobl yn dweud sut y bu i ryw air neu ystum a oedd yn ymddangos yn ddigon dibwys a phitw drawsnewid sefyllfa neu gyfarfod neu berthynas anodd.
Rhaid inni sylweddoli arwyddocâd arwyddion o ewyllys da – amynedd, cwrteisi, caredigrwydd, dyfalbarhad, haelioni, cariad. Oherwydd y pethau hyn, yn y diwedd – ynghyd â pheidio â dal dig at ein gilydd – yw’r pethau pwysicaf mewn bywyd.
Fel y dywed Paul: “ beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur ..., myfyriwch ar y pethau hyn”.
Os nad ydym dros Dduw a thros eraill, dros drosgynoldeb a bara, fydd i’r adeilad hwn ddim gwerth o gwbl. Symbol gwag fydd e, a symbol gwag drudfawr, na fydd yn cyflawni fawr ddim. Ond fe wn y byddwch chi yn sicrhau nad felly y bydd hi. Fe fyddwch yn ceisio anrhydeddu Duw a gweinidogaethu i bawb, am fod pawb wedi eu llunio ar ei ddelw. A bydd yr eglwys hon yn gymorth i chi i wneud hynny.
Iddo ef y bo'r gogoniant. Amen.