Molwch yr Arglwydd â thympan ac â dawns:
molwch ef â thannau ac ag organ.
Molwch ef â symbalau soniarus:
molwch ef â symbalau llafar.
Pob perchen anadl:
molianned yr Arglwydd; molwch yr Arglwydd.
Salm 150:4-6
Cerddoriaeth yn ein Gwasanaethau
Mae Eglwys Dewi Sant yn eglwys sy’n gosod pwyslais ar addoliad gweddus gan ddilyn traddodiadau cerddorol a litwrgaidd gorau yr Eglwys yng Nghymru. Yn ein prif wasanaethau, yn ogystal â chanu emynau, yr ydym yn canu’r salmau ac yn defnyddio gosodiadau cerddorol o’r Cymun Bendigaid a’r Foreol Weddi. Arweinir y canu cynulleidfaol mewn pedwar llais gan y côr sydd hefyd yn aml yn canu anthem yn ystod y gwasanaethau hyn ar y Sul ac ar uchel wyliau’r flwyddyn eglwysig. Yn gyfeiliant i’r canu mae organ “Y Tad Willis”, sydd wedi cael ei disgrifio fel yr “organ blwyf orau” yng Nghymru. |
Cyngherddau
Oherwydd ei lleoliad yng nghanol y ddinas, yr organ odidog ac acwstig rhagorol yr adeilad, mae’r eglwys yn fan boblogaidd i gynnal datganiadau organ a chyngherddau.
Yn ystod 2013 recordiodd Côr Merched Canna a Chôr Meibion Taf eu cryno ddisgiau diweddara’ yma .
Defnyddir y neuadd a’r eglwys gan Gôr Philharmonic Caerdydd a Chôr y Gleision ar gyfer eu hymarferion wythnosol.