Côr yr Eglwys
Mae'r Côr yn ymarfer pob nos Fawrth yn yr eglwys am 6.00pm.
Defnyddiwch ddrws y Festri i gael mynediad i'r eglwys ar gyfer yr ymarferion. |
Mae'r côr yn gôr cymysg llewyrchus sy’n canu yn y gwasanaeth fore Sul ac ar achlysuron arbennig o dan arweiniad ein cyfarwyddwr cerdd ifanc a brwdfrydig. Mae’r gerddoriaeth yn cynnwys ystod eang o weithiau o wahanol gyfnodau. Os hoffech roi tro ar ganu mewn côr neu os ydych yn ganwr profiadol sy’n chwilio am gôr sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth grefyddol, mae croeso i chi ddod i un o’n hymarferion i gael blas ar y canu a’r gwmnïaeth. |
Côr yr Eglwys - Nadolig 2016