Gwasanaethau
Dydd Sul 20 Gorffennaf - Trindod V 8.00am Y Cymun Bendigaid 10.30am Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul 6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth Dydd Mercher 23 Gorffennaf 10.30am Y Cymun Bendigaid Dydd Sul 27 Gorffennaf - Trindod VI 10.30am Y Foreol Weddi ar gân a Phregeth 6.00pm Y Cymun Bendigaid Dydd Mercher 30 Gorffennaf 10.30am Y Cymun Bendigaid Dydd Sul 3 Awst - Trindod VII 8.00am Y Cymun Bendigaid 10.30am Y Cymun Bendigaid ar gân 6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth Dydd Mercher 6 Awst 10.30am Y Cymun Bendigaid |
Trindod V
Luc 10. 38-42
Pan oeddent ar daith, aeth Iesu i mewn i bentref, a chroesawyd ef i'w chartref gan wraig o'r enw Martha. Yr oedd ganddi hi chwaer a elwid Mair; eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air. Ond yr oedd Martha mewn dryswch oherwydd yr holl waith gweini, a daeth ato a dweud, "Arglwydd, a wyt ti heb hidio dim fod fy chwaer wedi fy ngadael i weini ar fy mhen fy hun? Dywed wrthi, felly, am fy nghynorthwyo." Atebodd yr Arglwydd hi, "Martha, Martha, yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau, ond un peth sy'n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni." Hollalluog a thragwyddol Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys, gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen. Arglwydd Iesu, dysg im gerdded Trwy y byd yn ôl dy droed; 'Chollodd neb y ffordd i'r nefoedd, Wrth dy ganlyn di, erioed; Mae yn olau Ond cael gweld dy wyneb di. Dysg im siarad yn fwy nefol, Fel preswylwyr pur y wlad; Dysg im feddwl fel yr angel, Yn fwy annwyl am fy Nhad; Wedi'r dysgu Ti gei'r mawl a'r enw byth. Elfed. |