Astudio yng Nghaerdydd?
Myfyriwr yng Nghaerdydd ac yn chwilio am Eglwys neu am wybod mwy am y ffydd Gristnogol? Bydd croeso i ti yn Eglwys Dewi Sant! Mae Eglwys Dewi Sant yn rhan o'r Eglwys yng Nghymru a chynhelir ein holl wasanaethau a'n gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr ydym yn eglwys groesawgar, gyfeillgar ac yn agored i bawb. Yr ydym yn eglwys sy'n gosod pwyslais ar addoliad urddasol ac mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein gwasanaethau ar y Sul. Yr ydym yn eglwys sy'n cymhwyso dysgeidiaeth y Beibl i heriau ein hoes, ac yn ceisio, ym mhob dim, i fod yn ddilynwyr ffyddlon i Iesu Grist yng nghanol cymhlethdodau bywyd beunyddiol. Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i'r eglwys. Côr yr Eglwys Gweithgareddau Cymdeithasol Dysgwyr Cysylltu â ni |
Gwasanaethau ar y Sul
8.00am - Y Cymun Bendigaid
(Gwasanaeth syml a myfyriol, does dim canu ac mae'n para tua 40 munud a gynhelir ar y Sul cyntaf a'r trydydd o'r mis ) 10.30am - Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul (Gwasanaeth gydag emynau a phregeth, lle mae côr yr eglwys yn canu. Mae'n para tua awr a 10 munud.) 6.00pm - Yr Hwyrol Weddi ar gân (Gwasanaeth syml, traddodiadol, myfyriol sy'n cael ei ganu yw hwn gyda phregeth. Mae'n para tua awr.) Ar ôl y gwasanaeth 10.30am a 6.00pm mae paned o de neu goffi yn y neuadd. Cyfle i bawb cymdeithasau. Holl wasanaethau'r Eglwys: |