Abatai a Ffynhonnau : Pererindod 2015
1 - 3 Gorffennaf
"Bendithied y ddaear yr Arglwydd:
Chwi fynyddoedd a bryniau bendithiwch yr Arglwydd
Chwi holl wyrddion bethau ar y ddaear, bendithiwch yr Arglwydd
Chwi ffynhonnau, bendithiwch yr Arglwydd".
Benedicite Omina Opera - Emyn i'r Creawdwr
Diolch o waelod calon i Gwynn a Mair Matthews am drefnu pererindod lwyddiannus a bendithiol iawn.
Cafwyd tridiau bendigedig gyda chwmnïaeth wresog, gwesty cyffyrddus, â Gwynn yn ein tywys i ymweld â rhai o gysegrleoedd mwyaf trawiadol Gogledd Ddwyrain Cymru. Yno cafwyd cyfle i ddysgu am hanes y safle, teimlo’r naws arbennig, a chynnal ambell i wasanaeth awyr agored. Roedd y bererindod yn faeth i’r corff, meddwl a’r enaid.

Diwrnod I - Dydd Mercher 1 Gorffennaf
Ffynnon Tegla - Ymgysegru
"Tardda y ffynnon hon mewn cors a elwir Gwern Degla, oddeutu dau can llath oddi wrth Eglwys blwyf Llandegla, Sir Ddinbych"
"Tardda y ffynnon hon mewn cors a elwir Gwern Degla, oddeutu dau can llath oddi wrth Eglwys blwyf Llandegla, Sir Ddinbych"
A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf!
Diwrnod II - Dydd Iau 2 Gorffennaf
Ar ôl gwasanaeth plygeiniol o'r Cymun Bendigaid yng nghapel Llyfrgell Gladstone, Penarlâg a brecwast fe aethon ni i ymweld ag Abaty Dinas Basing.
O Abaty Dinas Basing i Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon
Ffynnon Gwenffrewi
Dyma'r unig ffynnon yng Nghymru gyda hanes di-dor o bererindota cyhoeddus ers tair canrif ar ddeg.
Bu pobl yn ymdrochi yn y ffynnon am dros fil o flynyddoedd.
Gelwir hi yn 'Lourdes' Cymru oherwydd "grym iachusol a bwrlwm y dŵr" ac mae'n cael ei hystyried yn un o'r Saith Rhyfeddod Cymru. Hon yw'r ffynnon pwysicaf yng Nghymru yn ôl Cymdeithas Ffynhonnau Cymru.

Agorwyd Brodordy Pantasaff yn 1852 ar gyfer Urdd y Ffransisiaid. Mae'r Brodordy yn weithredol hyd heddiw gyda mynaich yn byw ac yn gweithio yma. Mae'n ganolfan encil ac yma hefyd mae creirfa genedlaethol Padre Pio.
Ar ôl croeso gwresog a chinio blasus a baratowyd ar ein cyfer gan ddau o'r brodyr, ymlwybrodd y pererinion i fyny Bryn Calfaria gan ddilyn "Llwybr y Groes".
Ar ôl croeso gwresog a chinio blasus a baratowyd ar ein cyfer gan ddau o'r brodyr, ymlwybrodd y pererinion i fyny Bryn Calfaria gan ddilyn "Llwybr y Groes".
Ar ôl paned yn y neuadd, draw i Eglwys y Brodordy a'r Eglwys blwy' Babyddol a chael ein tywys o amgylch yr Eglwys gan un o'r brodyr.
Maen Achwyfan
Cafodd Maen Achwyfan ei ddisgrifio gan y Parchedig Elias Owen yn ei lyfr Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd and Neighbouring Parish (1886) fel y "gofeb garreg fwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru". Cafodd ei godi oddeutu'r flwyddyn 1000 AD. Mae cerfiadau'r groes yn nodweddiadol o grefftwaith Celtaidd gyda chroesau, cadwynau, clymau ac anifeiliaid mytholegol. Mae'r garreg bellach dan ofal CADW.
Croes Trelawnyd
Ym mynwent Eglwys y plwyf, Trelawnyd saif Croes garreg hynafol. Mae'r groes yn dyddio'n ôl i'r 12fed Ganrif a thros 11 troedfedd o ran uchder. Mae rhai yn tybied, cyn adeiladu'r eglwys, y byddai offeiriaid teithiol yn cymryd gwasanaethau yn ei chysgod.
Ar ôl ein hymweliad â Chroes Trelawnyd, aethon ni yn ôl i Lyfrgell Gladstone, Penarlâg am swper, Cwmplin a gwely.
Bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd!
Bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd!
Diwrnod III - Dydd Gwener 3 Gorffennaf
Heddiw oedd y diwrnod olaf. Cynhaliwyd gwasanaeth plygeiniol o'r Cymun Bendigaid yng nghapel y llyfrgell. Ar ôl brecwast, ffarwelion ni â Llyfrgell Gladstone, a dechreuon ni ar ein taith yn ôl i Gaerdydd.
Ffynnon Fair, Cefn Meiriadog
Mae Ffynnon Fair mewn llecyn unig, heddychlon yng nghanol cae yng Nghwm Elwy. Mae adfeilion yr hen gapel a'r ffynnon i'w gweld o hyd. Mae rhannau o'r capel yn dyddio'n ôl i'r 13eg Ganrif a rhannu eraill, y gangell a basn y ffynnon yn dyddio'n ôl i'r 15fed Ganrif. Mae tebygrwydd (ond ar raddfa lai) rhwng y ffynnon hon a ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. Gyda'r Diwygiad Protestannaidd, yn araf, dechreuodd y ffynnon ddadfeilio. Adferwyd rhannau o'r capel yn y 19fed Ganrif. Mae'r Capel a'r Ffynnon erbyn hyn o dan ofal CADW
Cynhaliwyd gwasanaeth wrth Ffynnon Fair, gan ddefnyddio dŵr oer y ffynnon i olchi'n dwylo - yn ein hatgofio ni o ddŵr y bedydd yn golchi ymaith ein pechodau.
Cynhaliwyd gwasanaeth wrth Ffynnon Fair, gan ddefnyddio dŵr oer y ffynnon i olchi'n dwylo - yn ein hatgofio ni o ddŵr y bedydd yn golchi ymaith ein pechodau.