Hysbysiad Preifatrwydd Data
Cyngor Plwyfol Eglwysig
Eglwys Dewi Sant, Caerdydd
1. Eich data personol – beth ydyw?
Mae data personol yn ymwneud ag unigolyn byw y gellir ei adnabod o’r data hwnnw. Gall yr adnabod ddigwydd o’r wybodaeth yn unig neu yn sgil ei chyfuno ag unrhyw wybodaeth arall ym meddiant y rheolwr data neu sy’n debyg o ddod i’w feddiant. Mae prosesu data personol yn cael ei lywodraethu gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ( y ‘RhDDC’).
2. Pwy ydym ni?
Cyngor Plwyfol Eglwysig Eglwys Dewi Sant, Caerdydd yw’r rheolydd data (manylion cyswllt isod). Mae hyn yn golygu mae’r cyngor hwnnw sy’n penderfynu sut mae eich data personol yn cael ei brosesu ac at ba ddibenion.
3. Sut yr ydym yn prosesu eich data personol?
Mae Cyngor Plwyfol Eglwysig Eglwys Dewi Sant, Caerdydd yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y RhDDC drwy gadw data personol yn gyfredol; drwy ei storio a’i ddinistrio’n ddiogel; drwy beidio â chasglu na chadw gormod o ddata; drwy ddiogelu data personol rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio, rhag gael ei weld a’i ddatgelu heb awdurdod a thrwy sicrhau bod mesurau technegol priodol ar waith i ddiogelu data personol.
Rydym yn defnyddio eich data personol i‘r dibenion a ganlyn:
- Ein galluogi ni i ddarparu gwasanaeth gwirfoddol er budd y cyhoedd yn y Plwyf;
- Cynnal a gweinyddu ein cofnodion aelodaeth;
- Codi arian a hyrwyddo buddiannau’r Eglwys;
- Rheoli y rhai a gyflogir gennym a’n gwirfoddolwyr;
- Cynnal ein cyfrifon a’n cofnodion ein hunain (gan gynnwys prosesu ceisiadau Cymorth Rhodd);
- Rhoi gwybod i chi am newyddion, digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau yn y Plwyf;
- Rhannu eich manylion cyswllt gyda swyddfa’r Esgobaeth fel y gallent hwy roi gwybod i chi am newyddion yn yr Esgobaeth a digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau a fydd yn digwydd yn yr Esgobaeth ac a allai fod o ddiddordeb i chi.
4. Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
- Cydsyniad eglur gwrthrych y data fel y gallwn roi gwybod i chi am newyddion, digwyddiadau, gweithgareddau a gwasanaethau a phrosesu eich cyfraniadau Cymorth Rhodd a rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau esgobaethol.
- Mae angen prosesu data er mwyn medru cyflawni ein rhwymedigaethau dan y gyfraith cyflogaeth, nawdd cymdeithasol neu ddiogelwch cymdeithasol, neu o dan gytundeb torfol;
- Cyflawnir y gwaith prosesu gan gorff nid-er-elw sydd â nod gwleidyddol, athronyddol neu grefyddol neu sy’n undeb llafur, cyn belled â bod: -
- y prosesu’n ymwneud yn unig ag aelodau neu gyn-aelodau (neu’r rhai sydd â chyswllt rheolaidd â’r corff mewn cysylltiad â’r dibenion hynny); ac
- nid oes unrhyw ddatgelu data i drydydd parti heb gydsyniad.
5. Rhannu eich data personol
Bydd eich data personol yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol a dim ond gydag aelodau eraill yr Eglwys y bydd yn cael ei rannu er mwyn darparu gwasanaeth i aelodau eraill yr Eglwys neu at ddibenion sy’n gysylltiedig â’r Eglwys. Dim ond gyda’ch caniatâd chi y byddwn ni’n rhannu eich data â thrydydd parti y tu allan i’r Plwyf.
6. Am ba hyd yr ydym ni’n cadw eich data personol?
Yr ydym yn cadw data yn unol â’r canllawiau a nodir yn y canllaw “Cadw neu Lluchio: Gofalu am Gofnodion eich Plwyf”.
Yn benodol, rydym yn cadw data y rhôl etholwyr tra ei fod yn gyfredol; datganiadau Cymorth Rhodd a’r gwaith papur cysylltiedig am hyd at 6 mlynedd yn dilyn y flwyddyn galendr y maent yn weithredol iddi; a chofnodion cofrestru y Plwyf (bedydd; priodasau ac angladdau) am byth.
7. Eich hawliau a’ch data personol
Oni bai bod eithriad o dan y RhDDC, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn perthynas â’ch data personol:-
- Yr hawl i ofyn am gopi o’ch data personol y mae Cyngor Plwyfol Eglwysig Dewi Sant yn cadw amdanoch chi;
- Yr hawl i ofyn bod Cyngor Plwyfol Eglwysig Dewi Sant yn cywiro unrhyw ddata personol os darganfyddir nad yw’n gywir neu nad yw’n gyfredol;
- Yr hawl i ofyn bod eich data personol yn cael ei ddileu pan nad oes angen i Gyngor Plwyfol Eglwysig Dewi Sant gadw’r fath ddata mwyach;
- Yr hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar gyfer prosesu’r data ar unrhyw adeg;
- Yr hawl i ofyn i’r rheolwr data ddarparu data personol i wrthrych y data, a lle bo’n bosibl, trosglwyddo’r data hwnnw’n uniongyrchol i reolwr data arall (a elwir yr hawl cludo data), (lle bo’n berthnasol) [Dim ond yn weithredol pan fo’r prosesu’n seiliedig ar gydsyniad neu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni cytundeb gyda gwrthrych y data ac yn y naill achos neu’r llall lle bo rheolwr y data yn prosesu’r data drwy gyfrwng ddull awtomatig];
- Yr hawl, lle bo anghydfod mewn perthynas â chywirdeb neu brosesu eich data personol, i ofyn am osod cyfyngiad ar unrhyw brosesu pellach;
- Yr hawl i wrthwynebu prosesu data personol, (lle bo’n berthnasol) [Dim ond yn weithredol pan fo’r prosesu yn seiliedig ar fuddiannau cyfreithlon (neu ar gyflawni tasg er budd y cyhoedd/arfer awdurdod swyddogol); marchnata uniongyrchol a phrosesu at ddibenion ymchwil gwyddonol/ hanesyddol ac ystadegau];
- Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
8. Prosesu Pellach
Os byddwn yn dymuno defnyddio eich data personol at ddiben newydd, nad yw wedi ei gynnwys yn yr Hysbysiad Diogelu Data hwn, yna byddwn yn rhoi hysbysiad newydd i chi sy’n egluro’r defnydd newydd hwn cyn dechrau ar y prosesu, gan nodi’r dibenion perthnasol a’r amodau prosesu. Lle bynnag a phryd bynnag y bo angen, byddwn yn ceisio sicrhau eich caniatâd ymlaen llaw ar gyfer y gwaith prosesu newydd.
9. Manylion Cyswllt
Er mwyn medru ymarfer pob hawl berthnasol, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwynion, yna gofynnir i chi gysylltu â’r Ficer a Chadeirydd Cyngor Plwyfol Eglwysig Eglwys Dewi Sant yn y lle cyntaf os gwelwch yn dda:
Y Parchedig Dyfrig Lloyd
029 2056 6001
Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu drwy e-bost https://ico.org.uk/global/contact-us/email/ neu drwy postio Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF