EGLWYS
DEWI SANT
CAERDYDD
  • Hafan
  • Bywyd yr Eglwys
    • Gwasanaethau >
      • Podliadau Adfent 2021
      • Podlediadau Tymor y Drindod
      • Podlediadau'r Wythnos Fawr a'r Pasg 2021
      • Podlediadau 2021
      • Podlediadau Tachwedd a Rhagfyr
      • Hen Bodlediadau Mis Medi - Hydref
      • Hen Bodlediadau Mis Awst
      • Hen Bodlediadau Mawrth - Gorffennaf
    • Myfyrwyr
    • Gŵyl Flodau
    • Yr Ysgol Sul/Den Dewi
    • Cymdeithas Nos Iau
    • Welsh Learners Coffi a Chlonc 2025
    • Y Bwletin Wythnosol
    • Pererindod 2015
  • Cerddoriaeth
    • Côr yr Eglwys
    • Yr Organ
    • Cyngherddau 2025
  • Hanes
  • Cysylltwch รข ni
    • Llogi'r Eglwys/ Hiring the Church >
      • POLISÏAU
      • Polisi Diogelu >
        • Polisi Diogelu Data
  • Cloch Dewi

Y Bwletin Wythnosol

Esgobaeth Llandaf + Deoniaeth Caerdydd
EGLWYS DEWI SANT
www.eglwysdewisant.org.uk
 
CROESO i bawb sydd yn ymweld â’r eglwys heddiw.  Cofiwch ymuno â ni am baned a sgwrs yn y neuadd ar ôl y gwasanaeth.
 
20 Gorffennaf 2025

Trindod V     
8.00am Y Cymun Bendigaid
Darllenydd: Wyn Mears
 
 10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul
Darllenwyr: Siwan Seaman / Liz Harewood
Emynau: 387 (Living Lord); 325 (Dim ond Iesu);
                 153 (Diniweidrwydd); 250 (Rhondda)
 
 6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth
Salm: 81
Darlleniadau: Genesis 41:1-16, 25-37
                          I Corinthiaid 4:8-13
Darllenwyr: Mair Matthews / Karl Davies
Emynau: 248 (Rimington); 424 (Redhead);
                 466 (Düsseldorf 47)



Nos Fawrth 22 Gorffennaf 2025
Dim ymarfer côr   
 
Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025
10.30am  Y Cymun Bendigaid   
 
Dydd Sul 27 Gorffennaf 2025
Trindod VI  
10.30am Y Foreol Weddi ar gân
                        a Phregeth                        
6.00pm  Y Cymun Bendigaid

 







     
HEDDIW: YR YSGOL SUL
Cynhelir sesiwn olaf yr Ysgol Sul cyn gwyliau’r haf heddiw yn ystod y gwasanaeth 10.30am.

CYNGOR PLWYFOL EGLWYSIG
Cynhelir cyfarfod o’r uchod nos Lun 21 Gorffennaf yn neuadd yr Eglwys am 7.00pm.

GWIBDAITH I ABERGLASNE
I’r rhai sy’n dod ar ein gwibdaith i Erddi Aberglasne dydd Mawrth 22 Gorffennaf, byddwn yn cyfarfod am ginio yn y Plough, Rosmaen SA19 6NP ganol dydd (Fe welwch gopi o’r fwydlen yng nghefn yr eglwys). Mae’r gerddi yn agored tan 6.00pm.  
Pris mynediad i’r gerddi yw £14.95.  Byddwn yn trefnu’r cludiant ar ôl y gwasanaeth heddiw.

CERDDORFA DOVETAIL
Bydd Cerddorfa Dovetail, y gerddorfa sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd ac yn ymarfer yn wythnosol yn yr eglwys, yn cynnal cyngerdd byr diwedd tymor dydd Iau 24 Gorffennaf am 11.00pm.  Croeso cynnes i bawb.  Bydd cyfle i gwrdd â’r cerddorion dros baned ar ôl y cyngerdd.

CYNGERDD CÔR Y GLEISION
Cynhelir cyngerdd haf Côr y Gleision yn EDS nos Iau 24 Gorffennaf am 7.30pm. Yr unawdydd fydd Ffion Thomas, enillydd gwobr Bryn Terfel, yr Urdd 2025. Tocynnau’n £5 wrth y drws.  Croeso cynnes i bawb.

LLONGYFARCHIADAU
Llongyfarchiadau i Megan Poulson a Matt Parry ar eu priodas yn ddiweddar.  Dymunwn bob bendith ar eu bywyd priodasol.

ANRHYDEDD
Yr ydym yn llongyfarch Tim Saunders yn wresog am ennill cwpan Kowethas an Yeth Kernewek am ei lyfr Termynyow a Dheu, sef casgliad o gerddi a gyfansoddwyd ganddo yn yr iaith Cernyweg gyda chyfieithiadau Saesneg.  Mae modd prynu copi o’r gyfrol yn siop Cant a Mil am £7.99.       

COFFI A CHLONC
Cafwyd bore dymunol iawn a sgwrsio difyr ddoe.  Dyma oedd y bore coffi olaf cyn gwyliau’r haf.  Diolch i bawb sydd wedi bod mor ffyddlon yn y boreau hyn ac i bawb o’r eglwys sydd wedi bod mor barod i helpu gyda gweini’r coffi a hwyluso’r ymddiddan.  

CYFRWNG NEWYDD
Mae EDS wedi ymuno â Bluesky, cyfrwng cymdeithasol sy’n debyg iawn i X (Twitter gynt),
Os ydych yn defnyddio Bluesky mae modd ddod o hyd i’r eglwys:
@eglwysdewisant.bsky.social.  Yr ydym yn bwriadu defnyddio’r cyfrwng hwn i hysbysebu gwasanaethau a digwyddiadau yn yr eglwys.  

AGOR YR EGLWYS
Ar ddyletswydd Dydd Mercher 23 Gorffennaf:
11.30am – 1.30pm: Delyth Davies a Heulwen Jones




Ein Stori Lawen
Yr ydym yn Eglwys Blwyf Gymraeg yng nghanol y ddinas ac yr ydym wedi bod yn rhan o fywyd, bwrlwm a thwf Caerdydd am dros ganrif a hanner. 
  • Mynegwn ein ffydd Gristnogol yn llawen trwy ein haddoliad, ein gwasanaeth a’n cymdeithas mewn awyrgylch sy’n groesawgar, gofalgar a theuluol ei naws. 
  • Yr ydym yn meithrin ein plant a’n pobl ifanc trwy weithgareddau’r Ysgol Sul a’r gwasanaethau teuluol, a thrwy ein gwasanaethau litwrgaidd, y geiriau a’r gerddoriaeth cawn ein hysbrydoli i addoli a gwasanaethu’r Duw byw. 
  • Yr ydym yn falch o annog a chefnogi dysgwyr y Gymraeg. 
  • Mae croeso ac mae lle yn yr eglwys hon i bawb sydd am ystyried neu ailgydio yn eu ffydd neu sy’n chwilio am gartref ysbrydol.
 
Our Joyful Story
We are a Parish Church in the city Centre and we have been a part of the life, bustle and growth of Cardiff for over 150 years.  We welcome visitors of all nationalities and denominations to Eglwys Dewi Sant. Please make yourself known to us and do sign the visitors’ book. If you are learning Welsh, you will find the bilingual service books very useful. You may also wish to practise your Welsh after the service over coffee in the Church Hall.
Os am ragor o wybodaeth am Eglwys Dewi Sant:
Ficer/Vicar: Y Parchedig Dyfrig C. Lloyd
Ffôn: 029 2056 6001
E-bost: [email protected]
Y Parchedig Rhian Linecar (Offeiriad)
Ffôn: 01446 760 007
E-bost: [email protected]
Y Wardeniaid/Churchwardens:
Wyn Mears - Ffôn: 029 20758726
E-bost: [email protected]
Gwynn Matthews – Ffôn: 029 2089 1802
E-bost: [email protected]
Cyfarwyddwr Cerdd:
Ieuan Jones, B. Mus - Ffôn:  074 29 012781
E-bost: [email protected]
Trysorydd:
Rhys Jones - Ffôn: 029 2056 3834 neu 077 94 897328
E-bost:  [email protected]
Ysgrifennydd Cymorth Rhodd:
Graham Carson - Ffôn: 029 2069 1860
Ysgrifennydd Cyngor Plwyf:
Marian Fairclough - Ffôn: 029 2088 5151
E-bost: [email protected]  


HYSBYSFWRDD YN Y NEUADD
Mae nifer o eitemau newydd yn cael eu gosod ar
yr hysbysfwrdd yn wythnosol. Felly, rydym yn annog pawb i gymryd amser i edrych ar yr hysbysfwrdd yn rheolaidd.





 


 


 



 

 

 

Proudly powered by Weebly