|
Gwasanaethau 2026 Dydd Sul 13 Medi Trindod XV 10.30am Y Cymun Bendigaid ar gân 6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth Dydd Mercher 16 Medi 10.30am Y Cymun Bendigaid Dydd Sul 20 Medi Trindod XVI 8.00am Y Cymun Bendigaid 10.30am Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul 6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth Dydd Mercher 23 Medi 10.30am Y Cymun Bendigaid Dydd Sul 27 Medi Trindod XVII 10.30am Y Foreol Weddi ar gân a Phregeth 6.00pm Y Cymun Bendigaid Dydd Mercher 30 Medi 10.30am Y Cymun Bendigaid Dydd Sul 4 Hydref Trindod XVIII 8.00am Y Cymun Bendigaid 10.30am Y Cymun Bendigaid ar gân 6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth |
Trindod XIV
Mathew 18. 21-35
Yna daeth Pedr a gofyn iddo, "Arglwydd, pa sawl gwaith y mae fy nghyfaill i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Ai hyd seithwaith?" Meddai Iesu wrtho, "Nid hyd seithwaith a ddywedaf wrthyt, ond hyd saith deg seithwaith. Am hynny y mae teyrnas nefoedd yn debyg i frenin a benderfynodd adolygu cyfrifon ei weision. Dechreuodd ar y gwaith, a dygwyd ato was oedd yn ei ddyled o ddeng mil o godau o arian. A chan na allai dalu gorchmynnodd ei feistr iddo gael ei werthu, ynghyd â'i wraig a'i blant a phopeth a feddai, er mwyn talu'r ddyled. Syrthiodd y gwas ar ei liniau o flaen ei feistr a dweud, 'Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf y cwbl iti.' A thosturiodd meistr y gwas hwnnw wrtho; gollyngodd ef yn rhydd a maddau'r ddyled iddo. Aeth y gwas hwnnw allan a daeth o hyd i un o'i gydweision a oedd yn ei ddyled ef o gant o ddarnau arian; ymaflodd ynddo gerfydd ei wddf gan ddweud, 'Tâl dy ddyled.' Syrthiodd ei gydwas i lawr a chrefodd arno, 'Bydd yn amyneddgar wrthyf, ac fe dalaf iti.' Ond gwrthododd; yn hytrach fe aeth a'i fwrw i garchar hyd nes y talai'r ddyled. Pan welodd ei gydweision beth oedd wedi digwydd, fe'u blinwyd yn fawr iawn, ac aethant ac adrodd yr holl hanes wrth eu meistr. Yna galwodd ei feistr ef ato, ac meddai, 'Y gwas drwg, fe faddeuais i yr holl ddyled honno i ti, am iti grefu arnaf. Oni ddylit tithau fod wedi trugarhau wrth dy gydwas, fel y gwneuthum i wrthyt ti?' Ac yn ei ddicter traddododd ei feistr ef i'r poenydwyr hyd nes y talai'r ddyled yn llawn. Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau os na faddeuwch bob un i'w gyfaill o'ch calon." O Dduw, yn dy drugaredd hael anfonaist yr Ysbryd Glân ar dy Eglwys, yn nhân ysol dy gariad: caniatâ i’th bobl fod yn danbaid yng nghymdeithas yr efengyl fel, gan fyw’n wastadol ynot ti, y ceir hwy yn gadarn mewn ffydd ac yn ymroddgar eu gwasanaeth; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen. Duw a Thad yr holl genhedloedd, O sancteiddier d'enw mawr; Dy ewyllys di a wneler Gan dylwythau daear lawr; Doed dy deyrnas Mewn cyfiawnder ac mewn hedd. Mewn trugaredd cofia'r gwledydd, O'u blinderau arwain hwy Yn d'oleuni di i rodio Fel na ddysgont ryfel mwy: O Cymoder Pawb â'i gilydd wrth y Groes. D. Tecwyn Evans |