Crynodeb: Polisi Iechyd a Diogelwch 2026
Eglwys Dewi Sant, Caerdydd C10 3DD
Diben y Polisi yw sicrhau, cyn belled ag sydd yn rhesymol bosibl, y safonau uchaf o iechyd, diogelwch a lles pawb sy’n defnyddio Eglwys Dewi Sant.
Cyfrifoldebau.
Y Ficer sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Iechyd a Diogelwch yr Eglwys, ac ynghyd a’r Wardeniaid ac aelodau’r CPE sicrhau bod y polisi Iechyd a Diogelwch yn cael ei weithredu.
Y Ficer yw Swyddog Iechyd a Diogelwch yr Eglwys.
Damweiniau a Chymorth Cyntaf.
Diogelwch Tân
Diogelwch Trydanol
Diogelwch Nwy
Sylweddau Peryglus
Cyflwr y lloriau tu mewn a thu allan i’r eglwys
Mangre oddi amgylch yr eglwys
Corau a Dodrefn yr Eglwys
Goleuadau
Paratoi Bwyd
Ffenestri
Diogelu Plant ac Oedolion Bregus
Asesiadau Risg
1. Mae Asesiad Risg ar gyfer pob gweithgaredd a gynhelir gan yr Eglwys. Asesiadau Risg ar gyfer ei gwasanaethau a'i gweithgareddau cymdeithasol
Derbyniwyd gan CPE Mai 2026
Nodyn Pwysig: Mae’r cyfarwyddiadau uchod yn seiliedig ar ddogfen “Church Health and Safty Policy with guidance notes” a baratowyd gan Ecclesiastical cwmni yswiriant yr eglwys.
Cyfrifoldebau.
Y Ficer sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Iechyd a Diogelwch yr Eglwys, ac ynghyd a’r Wardeniaid ac aelodau’r CPE sicrhau bod y polisi Iechyd a Diogelwch yn cael ei weithredu.
Y Ficer yw Swyddog Iechyd a Diogelwch yr Eglwys.
Damweiniau a Chymorth Cyntaf.
- Mae’r blwch Cymorth Cyntaf yn y neuadd
- Mae Delyth Davies a Dyfrig Lloyd wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf (Gwanwyn 2017)
- Mae’r llyfr damweiniau yn neuadd yr eglwys nesaf at y blwch Cymorth Cyntaf a nodir pob damwain a ddigwyddir yn yr eglwys neu ar dir yr eglwys ynddo
Diogelwch Tân
- Cyflawni asesiad risg tân
- Sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r allanfeydd tân a beth i wneud os digwydd bydd tân
- Sicrhau bod y diffoddwyr tân yn eu lle. Mae’r diffoddwyr yn cael eu profi yn flynyddol gan cwmni Chubb ac mae nodyn arnynt i brofi hynny
- Sicrhau bod y blanced tân yn y gegin.
- Sicrhau bod y allanfeydd tân yn glir ac yn gallu cael eu hagor yn ddi-rwystr
- Mewn argyfwng bydd y Ficer/ Wardeniaid yn gofyn i bawb ymgynnull wrth y blwch post sydd yn y Cilgant
Diogelwch Trydanol
- Mae’r sustem trydanol ynghyd â theclynnau trydanol yn cael ei archwilio yn ôl gofynnon PAT yn flynyddol
- Mae gwaith cyson yn cael ei wneud ar yr organ i sicrhau bod yr elfennau trydanol yn ddiogel
Diogelwch Nwy
- Mae gennym foeler newydd a bydd y boeler a’r pibellau nwy yn cael ei archwilio yn flynyddol.
Sylweddau Peryglus
- Ni chedwir sylweddau peryglus ar y safle
- Cafwyd yr eglwys archwiliad asbestos 2017
- Dylid cadw cemegau glanhau o dan glo.
Cyflwr y lloriau tu mewn a thu allan i’r eglwys
- Dylid cadw’r staerau a’r eiliau yn glir
- Sicrhau nad yw’r llwybr sy’n arwain at yr eglwys yn slic oherwydd mwsogl neu algâu
- Bod unrhyw nam yn y lloriau yn cael ei trwsio cyn gynted.
Mangre oddi amgylch yr eglwys
- Sicrhau bod y tir o amgylch yr eglwys yn glir o sbwriel, nodwyddau a pharaphernalia cyffuriau eraill. Dylid gwneud hyn gan ddefnyddio y codwr sbwriel sydd yng nghefn yr eglwys a dylid gosod unrhyw nodwyddau yn y blwch nodwyddau arbennig sydd yn cael ei gadw yn Festri’r Ficer
- Sicrhau bod archwiliad blynyddol o’r coed oddi amgylch yr eglwys ac unrhyw waith tocio neu driniaeth arall yn cael ei gyflawni yn ôl y gofyn. Gwnaethpwyd yr archwiliad diwethaf Rhagfyr 2018 a chyflawnwyd y gwaith angenrheidiol ar y coed
Corau a Dodrefn yr Eglwys
- Sicrhau bod yr holl gorau a dodrefn yr eglwys yn gadarn, yn ddiogel, yn addas i’r diben a rhydd o bryfed pren. Trwsiir unrhyw nam cyn gynted
- Gosodwyd 20 cadair newydd yng Nghapel Mair (Mai 2019)
Goleuadau
- Sicrhau bod y golau oddi mewn ac oddi allan i’r eglwys yn ddigonol.
- Sicrhau bod y goleuadau yn cael eu newid fel bo angen
Paratoi Bwyd
- Mae cyfarwyddiadau i sicrhau hylendid bwyd yn y gegin a rhaid atgoffa pobl o’r cyfarwyddiadau hyn
- Mae Erith Davies a Shân Morgan wedi derbyn hyfforddiant hylendid bwyd (Gwanwyn 2017)
Ffenestri
- Sicrhau bod y ffenestri mewn cyflwr diogel ac unrhyw nam yn cael ei drwsio cyn gynted
Diogelu Plant ac Oedolion Bregus
- Mae’r polisi Diogelu ar yr hysbysfwrdd yn neuadd yr eglwys
- Mairlis Davies yw swyddog Diogelu’r eglwys
Asesiadau Risg
1. Mae Asesiad Risg ar gyfer pob gweithgaredd a gynhelir gan yr Eglwys. Asesiadau Risg ar gyfer ei gwasanaethau a'i gweithgareddau cymdeithasol
Derbyniwyd gan CPE Mai 2026
Nodyn Pwysig: Mae’r cyfarwyddiadau uchod yn seiliedig ar ddogfen “Church Health and Safty Policy with guidance notes” a baratowyd gan Ecclesiastical cwmni yswiriant yr eglwys.