EGLWYS
DEWI SANT
CAERDYDD
  • Hafan
  • Bywyd yr Eglwys
    • Gwasanaethau
    • Yr Ysgol Sul
    • Myfyrwyr
    • Cymdeithas Nos Iau
    • Welsh Learners Coffi a Chlonc 2026
    • Y Bwletin Wythnosol
  • Cerddoriaeth
    • Côr yr Eglwys
    • Yr Organ
    • Cyngherddau 2026
  • Hanes
    • Gŵyl Flodau
    • Pererindod 2015
  • Cysylltwch รข ni
    • Llogi'r Eglwys/ Hiring the Church >
      • POLISÏAU
      • Polisi Diogelu >
        • Polisi Diogelu Data
  • Cloch Dewi

Y Bwletin Wythnosol

Esgobaeth Llandaf + Deoniaeth Caerdydd
EGLWYS DEWI SANT
www.eglwysdewisant.org.uk
 
CROESO i bawb sydd yn ymweld â’r eglwys heddiw.  Cofiwch ymuno â ni am baned a sgwrs yn y neuadd ar ôl y gwasanaeth.
 

4 Hydref 2026
Trindod XVIII
8.00am  Y Cymun Bendigaid
Darllenydd:  Ifer Arch
 
10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân
Darllenwyr: Dilys Jones / Dawn King 
Emynau: 309 (Missionary); 161 (Leicester);
                 371 (Arizona); 247 (Crüger)
 
 6.00pm  Yr Hwyrol Weddi a Phregeth
Salm: 136:1-9
Darlleniadau: Diarhebion 2:1-11
                          I Ioan 2:1-17
Darllenwyr: Jennifer Taylor / Siân Eleri Thomas
Emynau: 393 (Deganwy 457); 522 (Gwalchmai);
                 405 (Zurich 114)



Yn yr Eglwys:

Nos Fawrth 6 Hydref 2026
6.00pm  Ymarfer Côr
 
Dydd Mercher 7 Hydref 2026
10.30am  Y Cymun Bendigaid
 
Dydd Sul 11 2026
Diolchgarwch am y Cynhaeaf
10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân
                        ac Ysgol Sul
6.00pm  Yr Hwyrol Weddi a Phregeth
                                             

                      





 



 














 

 
HEDDIW: HANNER MARATHON CAERDYDD
Cynhelir yr Hanner Marathon yn y ddinas bore heddiw, 4 Hydref, sy’n golygu bod nifer o’r heolydd ar gau yng nghanol yn ddinas.  Serch hynny, mae modd cyrraedd yr eglwys yn weddol ddidrafferth ar hyd Heol y Gogledd, Heol Colum a Park Place.  Byddwn felly yn cynnal ein gwasanaethau yn ôl yr arfer.  Cofiwch bod gennym hefyd wasanaeth am 6.00pm.  Bydd yr heolydd i gyd yn agored fel arfer a’r traffig wedi cilio.  Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.cardiffhalfmarathon.co.uk/app/uploads/2023/09/CHM-2023-Road-Closure-Map-compressed.pdf     
YR YSGOL SUL
Oherwydd y Marathon heddiw bydd yr Ysgol Sul yn symud o’r 4ydd i’r 11eg Hydref i gyd-fynd â’n gwasanaeth Diolchgarwch am 10.30pm.  

Y SUL NESAF: DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAEAF
Byddwn yn cynnal ein gwasanaeth Diolchgarwch y Sul nesaf, 11 Hydref gyda gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid am 10.30am.  Ein pregethwr gwadd eleni fydd yr Hybarch Matthew Hill, Archddiacon Caerfyrddin. Bydd cinio cynhaeaf yn y neuadd yn syth ar ôl y gwasanaeth.  Er mwyn helpu gyda’r gwaith o ddarparu’r lluniaeth a fyddech garediced â rhoi eich enw i Delyth Davies os ydych yn bwriadu aros i ginio.

Y GANOLFAN GLYD
Mae EDS ar ddyletswydd heddiw yn y Ganolfan Glyd.  Diolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli i helpu.  Bydd angen bod yn Festri’r Tabernacl erbyn 1.30pm.  

CYNGERDD AWR GINIO
Ar ôl saib yn ystod yr haf, bydd y cyngherddau awr ginio o dan nawdd Actifyddion Artisig Caerdydd yn ailgychwyn dydd Mawrth 6 Hydref am 1.00pm gyda chyngerdd gan bumawd llinynnol Chamber Principals o Lundain.  Sylfaenydd y pumawd yw Sergey Levitin, cyfarwyddwyr cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol.  Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithiau gan Imogen Holst, Schnittke a Mozart.  Tocynnau wrth y drws am £6.50.

DATGANIAD ORGAN
Cynhelir datganiad organ yn EDS dydd Gwener 9 Hydref am 1.15pm o dan nawdd Cardiff Organ Events.  Katherine Dines-Williams, Cyfarwyddydd Cerdd ac Organydd Eglwys Gadeiriol Caerwynt fydd y datgeinydd.  Mae’r datganiad yn rhad ac am ddim ond fe wneir casgliad ar y ffordd allan.  Dewch yn llu.

ALLWEDD AR GYFER LLAIN PARCIO EDS 2026 -2027
Os hoffech adnewyddu eich allwedd parcio neu archebu allwedd eleni y gost yw £100.
PWYSIG: Bydd angen i chi dderbyn allwedd newydd oherwydd bu’n rhaid i ni newid yr holl gloeon yr wythnos diwethaf.  
Am ragor o wybodaeth mynnwch air â Rhys Jones. 

GWARCHOD YR EGLWYS
Lynette Allen a Dilys Jones fydd ar ddyletswydd dydd Mercher 7 Hydref.  




Ein Stori Lawen
Yr ydym yn Eglwys Blwyf Gymraeg yng nghanol y ddinas ac yr ydym wedi bod yn rhan o fywyd, bwrlwm a thwf Caerdydd am dros ganrif a hanner. 
  • Mynegwn ein ffydd Gristnogol yn llawen trwy ein haddoliad, ein gwasanaeth a’n cymdeithas mewn awyrgylch sy’n groesawgar, gofalgar a theuluol ei naws. 
  • Yr ydym yn meithrin ein plant a’n pobl ifanc trwy weithgareddau’r Ysgol Sul a’r gwasanaethau teuluol, a thrwy ein gwasanaethau litwrgaidd, y geiriau a’r gerddoriaeth cawn ein hysbrydoli i addoli a gwasanaethu’r Duw byw. 
  • Yr ydym yn falch o annog a chefnogi dysgwyr y Gymraeg. 
  • Mae croeso ac mae lle yn yr eglwys hon i bawb sydd am ystyried neu ailgydio yn eu ffydd neu sy’n chwilio am gartref ysbrydol.
 
Our Joyful Story
We are a Parish Church in the city Centre and we have been a part of the life, bustle and growth of Cardiff for over 150 years.  We welcome visitors of all nationalities and denominations to Eglwys Dewi Sant. Please make yourself known to us and do sign the visitors’ book. If you are learning Welsh, you will find the bilingual service books very useful. You may also wish to practise your Welsh after the service over coffee in the Church Hall.

Os am ragor o wybodaeth am Eglwys Dewi Sant:
Ficer/Vicar: Y Parchedig Ganon Dyfrig C. Lloyd
Ffôn: 029 2056 6001
E-bost: [email protected]
Curad / Curate: Y Parchedig Athro Lloyd Llewellyn-Jones
Y Wardeniaid/Churchwardens:
Rhys Jones - Ffôn: 029 2056 3834 neu 077 94 897328
E-bost:  [email protected]
Delyth Davies – Ffôn: 077 61 118722
E-bost: [email protected]
Cyfarwyddwr Cerdd:
Ieuan Jones, B. Mus - Ffôn:  074 29 012781
E-bost: [email protected]
Trysorydd:
Rhys Jones - Ffôn: 029 2056 3834 neu 077 94 897328
E-bost:  [email protected]
Ysgrifennydd Cymorth Rhodd:
Graham Carson - Ffôn: 07712387203
Ysgrifennydd Cyngor Plwyf:
Marian Fairclough - Ffôn: 07579763030
E-bost: [email protected]



HYSBYSFWRDD YN Y NEUADD
Mae nifer o eitemau newydd yn cael eu gosod ar
yr hysbysfwrdd yn wythnosol. Felly, rydym yn annog pawb i gymryd amser i edrych ar yr hysbysfwrdd yn rheolaidd.





 


 


 



 

 

 

Proudly powered by Weebly