EGLWYS
DEWI SANT
CAERDYDD
  • Hafan
  • Bywyd yr Eglwys
    • Gwasanaethau
    • Yr Ysgol Sul
    • Myfyrwyr
    • Cymdeithas Nos Iau
    • Welsh Learners Coffi a Chlonc 2026
    • Y Bwletin Wythnosol
  • Cerddoriaeth
    • Côr yr Eglwys
    • Yr Organ
    • Cyngherddau 2026
  • Hanes
    • Gŵyl Flodau
    • Pererindod 2015
  • Cysylltwch รข ni
    • Llogi'r Eglwys/ Hiring the Church >
      • POLISÏAU
      • Polisi Diogelu >
        • Polisi Diogelu Data
  • Cloch Dewi



Ysgol Sul Dewi Sant 

Mae'r Ysgol Sul, fel arfer, yn cyfarfod ar y Sul cyntaf a'r trydydd Sul y mis yn y bore yn ystod y gwasanaeth 10.30am.

Mae rhieni a phlant yn ymuno â'r prif wasanaeth ac 10.30am ac yna cyn y bregeth yn mynd i'r neuadd gydag arweinydd profiadol yr Ysgol Sul, Liz Harewood (sy'n athrawes ysgol gynradd) ac aelodau o'i thîm sy'n helpu cynnal y gweithgareddau.  Mae croeso i'r rhieni ymuno â'u plant yn yr Ysgol Sul neu aros yn yr eglwys am y gwasanaeth.

Yn yr Ysgol Sul mae'r plant yn cael stori o'r Beibl ac yn dilyn y stori mae gweithgaredd - lliwio, canu, coginio, dawnsio neu gemau.  Mae pwyslais yn cael ei roi ar ddysgu trwy chwarae neu drwy weithgaredd. 

Mae'r Ysgol Sul yn para tua deugain munud ac ar y diwedd mae'r plant yn ymuno â'r gynulleidfa yn ystod y Cymun i dderbyn bendith. 

Ar achlysuron arbennig mae'r plant yn cymryd rhan yn ein gwasanaethau, trwy ddarllen, canu neu actio.  

Mae'r Ysgol Sul yn dilyn Polisi Diogelu yr Eglwys yng Nghymru yn ei holl weithgareddau. 

Dyddiadau'r Ysgol Sul - Tymor yr Hydref 2026
Dydd Sul 11 Hydref   (Diolchgarwch am y Cynhaeaf
Dydd Sul 18 Hydref

Dydd Sul 1Tachwedd
Dydd Sul 15 Tachwedd

Dydd Sul 6 Rhagfyr
Dydd Sul 13 Rhagfyr (Gwasanaeth Nadolig yr Ysgol Sul)

Ionawr 2027
Dydd Sul 3 Ionawr - Ysgol Sul am 10.30am 
Nos Sul 3 Ionawr am 6.00pm (Gwasanaeth Cristingl)   


Ein Polisi Diogelu

Picture

Skill One

Sed ut perspiciatis unde omnis iste natus error sit voluptatem accusant doloremque laudantium, totam rem.
Learn More
Picture

Skill Two

Sed ut perspiciatis unde omnis iste natus error sit voluptatem accusant doloremque laudantium, totam rem.
Learn More
Picture

Skill Three

Sed ut perspiciatis unde omnis iste natus error sit voluptatem accusant doloremque laudantium, totam rem.
Learn More
Proudly powered by Weebly